Wythnos 5


Roedd hi’n wythnos brysur a llawn gweithgareddau difyr ar draws y canolfannau iaith, gyda’r dysgwyr yn parhau i gael amrywiaeth o gyfleoedd gwerthfawr i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd ymarferol, creadigol a hwyliog. Mae eu hyder wrth siarad, gwrando a gweithio gyda’i gilydd yn parhau i ddatblygu ac mae’r dysgwyr yn fwyfwy parod i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd.

Yn y ganolfan iaith ar safle ysgol Eifionydd Porthmadog, cafwyd ymweliad arbennig gan Mali y ci. Bu i’r dysgwyr fwynhau ei chroesawu i’r ganolfan a chafwyd sesiwn yn ei disgrifio hi. Roedd yr ymweliad yn gyfle gwych i ddatblygu geirfa ddisgrifiadol a sgiliau llafar, yn ogystal â thrafod pwysigrwydd gofalu am anifeiliaid a dangos caredigrwydd tuag atynt.

Bu dysgwyr canolfan iaith Dolgellau yn cael hwyl yn dysgu gorchmynion ac iaith gyfarwyddiadol syml drwy sesiynau ioga a gweithgareddau gwneud toes. Roedd y gweithgareddau hyn yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr iddynt wrando ar gyfarwyddiadau, ymateb yn briodol a defnyddio'r Gymraeg mewn ffordd ymarferol a hwyliog.

Bu dysgwyr canolfan iaith Tywyn yn datblygu eu medrau llafar wrth ddysgu sut i ddisgrifio anifeiliaid rhyfedd a chreu anifeiliaid newydd eu hunain. Wrth gyflwyno eu creaduriaid i’w cyd-ddysgwyr, defnyddion nhw ystod eang o ansoddeiriau a phatrymau iaith i ddisgrifio eu hymddangosiad a’u nodweddion arbennig. Roedd y gweithgaredd yn gyfle gwych i ehangu geirfa, meithrin creadigrwydd a magu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg.

Yn y ganolfan iaith ar safle ysgol Tryfan, Bangor, cafodd y dysgwyr gyfle i ddatblygu eu sgiliau llafar a gwrando drwy greu podlediad yn dilyn darllen y stori Y Crocodeil Coll. Wrth drafod y cymeriadau a’r digwyddiadau yn y stori, defnyddion nhw eu syniadau eu hunain i gynllunio a recordio'r podlediad. Roedd y gweithgaredd yn gyfle gwych i gydweithio, bod yn greadigol a defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd ystyrlon, gan feithrin hyder wrth gyfathrebu a rhannu barn ag eraill.

Bu’r dysgwyr hefyd yn cofio Aberfan yr wythnos hon, wrth nodi 60 mlynedd ers y trychineb. Trwy weithgareddau a thrafodaethau addas i’w hoedran, cafodd y dysgwyr gyfle i ddysgu am y digwyddiad a myfyrio ar bwysigrwydd cymuned, caredigrwydd a pharch at eraill.

Geirfa a Phatrymau'r Wythnos

  • Disgrifio anifeiliaid a rhannau’r corff
  • Ansoddeiriau i ddisgrifio
  • Creu a disgrifio anifeiliaid dychmygol
  • Gorchmynion ac iaith gyfarwyddiadol syml
  • Geirfa Calan Gaeaf
  • Eirfa a phatrymau iaith wrth wneud toes
  • Patrymau a geirfa ioga
  • Geirfa a phatrymau o’r stori Y Crocodeil Coll
  • Iaith ar gyfer trafod llesiant

Cyfleoedd Dysgu Adref

  • Disgrifio anifeiliaid yn yr ardal leol
  • Chwarae’r gêm “Pwy ydw i?”
  • Creu anifail dychmygol a’i ddisgrifio
  • Dilyn a rhoi cyfarwyddiadau syml yn Gymraeg
  • Trafod llesiant pobl ac anifeiliaid
  • Defnyddio geirfa Calan Gaeaf mewn gemau a gweithgareddau creadigol
  • Rhannu hoff ran o stori neu lyfr gyda’r teulu